Yma o hyd
Welsh

Yma o hyd

by

Felly dyma fi 'to.

Mae hi wedi bod yn anodd yn ddiweddar, efo lot o waith a dim lot o awydd i wneud dim byd arall.

Dw i'n cael hi'n anodd i ganolbwyntio ar hyn o bryd. Wel, o'n i, wedyn nes i ddal covid a dydy brain ffog ddim yn helpu.

Felly dw i'n dechrau wedyn stopio lot o bethau. Mi wnes i ddarllen ychydig o lyfrau yn Ffrangeg ym mis Mehefin a dw i'n trio darllen rhywbeth yn Almaeneg rŵan. Does 'na'm byd yn y Gymraeg sy'n cadw fy sylw ar hyn o bryd.

Mi wnaeth y 'Steddfod ysbrydoli fi ond mae'n gorffen yfory felly y flwyddyn nesa efallai. Mae gwrando ar y Gymraeg wastas yn neud fi deimlo'n ran o rywbeth.

Ond dim siarad. Mae'n anodd bod yn sosial hefyd, achos' s 'na'm lot yn mynd ymlaen.

"Be' ti'n neud y dyddiau 'ma?"

"Wel, tmod, gweithio".

"S'gen ti wyliau yn fuan? Ti'n neud un rhywbeth?"

"Oes, oes, ond dim rili. Jyst aros adra, t' mod"

Dw i i fod i neud rhywbeth yn Almaeneg heno ond yn hytrach dyma fi, yn sgwennu yn y Gymraeg. Fatha cyfrinach.

0