Echdoe darllenais i "Twll Bach Yn Y Niwl" gan Llio Elain Maddocks. Dewiswyd y llyfr am y restr fer am Llyfr y Flwyddyn eleni ond enillodd o mo'r gwobr. Roedd hwn un o ddau lyfr am/gan milenials ar y restr, ac enillodd y llyfr arall: "Tu ôl i'r awyr" gan Megan Angharad Hunter.
Mae "Twll Bach Yn Y Niwl" yn adrodd hanes Lowri, sydd wedi dod adre ar ôl y prifysgol ond sydd ddim yn byw'r bywyd oedd hi'n gobeithio amdano fo. Mae ei chariad o saith mlynedd yn dyweddïo gyda rhywun yn Awstralia, mae hi'n methu ffeindio swydd, ac mae ei mam yn sâl. Mae ganddi hi ffrindiau, ond does dim dyfodol i'w weld.
Mewn gwirionedd, dyma nofel am y heriau y mae ei chenhedlaeth yn wynebu. Er ei bod hi wedi symud i ffwrdd i Fanceinion am y prifysgol, mae hi eisiau byw a gweithio yn ei bro, ond does dim llawer o gyfleoedd yn lleol. Yn ychwanegol, hyd yn oed mae swyddi lefel mynediad yn disgwyl iddi weithio am ddim neu dalu am yr offer sydd ei angen.
Mae ei byd rhamantus yn heriol hefyd. Mae Lowri'n mwynhau rhyw, ac mae'r hel yn gwneud iddi deimlo'n bwerus, ond yn aml iawn dydy hi ddim yn rheoli'r sefyllfa. O ganlyniad, mae'r stori'n myfyrio ar newidiadau mewn agweddau cymdeithasol ynglŷn â thrais a chaniatâd.
Mae'r nofel yn llawn hiwmor ond faswn i ddim yn dweud ei bod hi'n ysgafn. Fel bywyd ei hun, ar brydiau mae'n drist, flin ac yn y diwedd gobeithiol. O'r diwedd, mae Lowri'n gweld twll bach yn y niwl 'na ac yn cymryd cam i'r dyfodol. Gobeithio bydd hi'n iawn.