Ar Drywydd Llofrudd
Welsh

Ar Drywydd Llofrudd

by

reading

Ar Noswyl Nadolig darllenais i "Ar Drywydd Llofrudd" gan Alun Davies.

Dyma'r nofel gyntaf mewn trioleg am Dditectif Taliesin MacLeavy, sydd newydd ymuno'r heddlu yn Aberystwyth. Mae o'n ddyn lletchwith sy'n cael ei blagio gan drychiolaethau ei deulu, ond mae o'n glyfar iawn ac mae o'n sylwi pethau bod pawb arall yn anwybyddu.

Pan mae dynes o'r enw Bet Goldsmith yn mynd ar goll, mae pawb yn meddwl y bydd hi'n dod yn ôl mewn dyddiau. Pan darganfwyd ei chorff, mae pawb yn meddwl mai ei gwr sy'n ar fai. Wedyn, darganfwyd corff arall...

Ar ôl i mi ddarllen cymaint o nofelau am berthnasau a theuluoedd, roedd yn rhyddhad darllen rhywbeth yn ysgafnach. Nid bod y llyfr hwn yn un hawdd: mae'n stori dreisgar a thywyll, ond fel pob nofel drosedd mae diwedd arni. Mae'r dirgelwch wastad yn cael ei ddatrys.

Hon ydy nofel eithriadol o afaelgar, sy'n cael ei hysgrifennu gyda adeiladwaith adroddiant ddiddorol. Rydw i'n edrych ymlaen at ddarllen y llyfr nesa.

1