Yr wythnos hon darllenais i ddau lyfr am blant: "Gawn Ni Stori?" gan John Owen Huws a "Straeon o'r Mabinogi" gan Mererid Hopwood.
Mae "Gawn Ni Stori" yn adrodd 24 storïau o Gymru, yn cynnwys rhai sydd yn chwedlau a rhai sydd am bobl hanesyddol. Darlunid pob stori gyda lluniau pensil hyfryd. Mae'r awdur yn adrodd pob hanes fel petai o'n dweud storïau am amser gwely, mewn arddull rhyngweithiol. Mae'r iaith yn eitha cymhleth felly nid llyfr am ddysgwyr yw hwn, ond basai'n ddefnyddiol iawn am rywun gyda fwy o brofiad gyda'r iaith. Oherwydd yr arddull adroddiant, mae pob stori'n cynnwys llawer o dechnegau rhethregol am ddweud stori.
Mae Straeon o'r Mabinogi yn adrodd pedair o'r straeon allwedd mewn ffordd syml, sef "Pwyll a Rhiannon", "Branwen", "Pryderi" a
"Blodeuwedd". Darlunir pob stori gyda lluniau lliwgar, mewn arddull Disney. Mae'r iaith yn syml iawn felly basai'r llyfr hwn yn addas am ddysgwyr. Mae cyfeiriadau at y Mabinogi yn ymddangos ar hyd y lled llenyddiaeth Gymraeg felly mae'n bwysig iawn bod yn gyfarwydd gyda nhw.