Martha Jac a Sianco
Welsh

Martha Jac a Sianco

by

reading
literature

Yr wythnos hon rydw i wedi darllen "Martha Jac a Sianco" gan Caryl Lewis. Enillodd o'r wobr "Llyfr y Flwyddyn" yn 2005 a Caryl Lewis wedi cael gyrfa llwyddiannus ers hynny, yn cynnwys yn scriptio am "Y Gwyllt" a "Chraith". Hoff iawn ydw i o'r rheina, felly roedd gen i ddiddordeb mawr yn y llyfr hwn.

Mae hi'n stori dywyll am ddau frawd ac un chwaer sydd dal i rhedeg fferm y teulu heb fawr o ddylanwad gan y byd allanol. Yn eithriadol o ynysu, wedi cael eu maglu gan y gorffennol ac eu amgylchiadau cyfredol, does dim dianc rhag y drasiedi olaf.

Yn anffodus, nid fy hoff fath nofel ydy honno. Does 'na fawr o ddim yn digwydd tan ddiwedd y stori er bod y darllenwr yn gwybod yn iawn bod rhywbeth o'i le. Rhagfynegir y terfyniad, felly dim ond aros amdani y medru'r darllenwr yn gwneud.

Mae'r nofel wedi cael ei haddasu am y sgrin, ac mae'r rhaglen ar gael ar S4C ar hyn o bryd fel "Rhaglen Nadolig", er fy mod i ddim yn gweld dim byd Nadoligaidd amdani!

1