Cerdded i'r dref
Welsh

Cerdded i'r dref

by

exercise
daily life

Roedd rhaid i fi gerdded i'r dref heddiw. Gallwn i fod wedi cerdded ar y ffordd, sy'n cymryd tri chwarter awr, ond mae e'n eithaf diflas. Gallwn i fod wedi cerdded ar y llwybr trwy’r tai, sy’n ychydig yn well. Gwnes i ddewis taith cerdded yn fwy cyffrous.

Cerddais i i’r hen bentref, wedyn ar hyd hen ffordd roedd yn mynd i’r hen pwyllai graen a thywod. Mae’r giât ar ddiwedd y ffordd ar glo, ond mae pobl yn gallu cerdded trwy gae a trwy goed ger y rheilffordd. Roedd yna lawer o fwd a danadl poethion a llwyni mwyar duon. Yn ffodus, roedd rhywun wedi torri'r gwaethaf o’r mwyar duon o’r llwybr. Ar ôl y coed, mae pont fach o dan y rheilffordd. “Sounding Bridge” yw enw’r bont, achos mae atsain braf yno. Roedd dŵr o dan y bont, ond roedd cerrig bach ar un ochr, felly roedd e’n bosibl cerdded heb wlychu'r troed yn rhy wlyb.

Nesaf, rhoed rhaid i fi ddringo dros goeden wedi cwympo i gyrraedd llwybr ar hen reilffordd. Caeodd y rheilffordd yn y saithdegau, sy’n siomedig achos does dim rheilffordd i’r dref nawr. Yn fuan, cyrhaeddais i’r llwybr seiclo. Roedd llawer iawn o fwd ar y llwybr seiclo nes i fi cyrraedd y ffin rhwng y pentref a’r dref. Yn sydyn, roedd lôn seiclo wych. Roedd e’n hawdd cerdded ymlaen.

Croesais i’r bont dros hen nant y felin, a cherddais i drwy gae’r Abaty rhwng yr afon a nant y felin. Ar ôl croesi pont arall, ro’n i mewn gardd gyhoeddus lle'r oedd eglwys yr Abaty yn y hen ddyddiau. Does dim olion ohono nawr. Cyrhaeddais i’r dref ar ôl awr a chwarter. Ges i daith gerdded ddiddorol. Roedd llawer o flodau gwyllt i’w weld, ac adar roedd yn canu. Llawer gwell na’r ffordd.

0