Hanes Coed Mawr Radley. Rhan 2
Mae Rhan 1 wedi adrodd hanes Radley Big Wood o'r adeg pan oedd yn barc ceirw Abaty Abingdon tan yr amser pan oedd y coetir yn perthyn i deulu Stonhouse.
Wnaethon nhw (teulu Stonhouse) greu Parc Mawr ger y tŷ crand a chadw ceirw yno. Wnaethon nhw ddim cadw ceirw yn yr hen barc ceirw, ond arhosodd y hen barc fel coed. Pan fu farw Syr John Stonhouse ym 1792, gadawodd Faenor Radley i'w nith, Penelope.
Yn 1795 bu farw Penelope ac aeth Radley Manor at y Llyngesydd Syr George Bowyer, nai i Syr John Stonhouse. Cafodd teulu Bowyer drafferthion gydag arian. Ym 1889, wnaethon nhw werthu llawer iawn o dir, gan gynnwys Coed Mawr Radley, i dalu dyledion. Prynodd Josephine Dockar-Drysdale, gweddw gyfoethog, y rhan fwyaf o'r tir. Gwerthodd y tŷ gwych a'r parc ffurfiol i Goleg Radley, ond roedd hi'n dal i fod yn berchen ar 2,000 erw o dir fferm gan gynnwys Coed Mawr Radley.
Ar ôl marwolaeth Josephine, ceisiodd teulu Dockar-Drysdale werthu'r tir ym 1930 ond roedd yn amser gwael. Doedd neb eisiau prynu'r holl dir. Wnaethon nhw werthu rhywfaint o dir i Goleg Radley, ond roedden nhw rannu'r rhan fwyaf o'r tir rhwng aelodau'r teulu. Roedd Mr Patrick Dockar-Drysdale o Wick Hall yn berchen ar Goed Mawr Radley.
Am ychydig, roedd gwersyll gwyliau yn y coed. Nawr mae hanner dwyreiniol y coed yn cynnwys tri pharc cartref symudol. Mae dau, Pebble Hill a Woodlands, yn eiddo i Gymdeithas Tai'r Fro ac yn cael eu rhedeg ganddo. Mae'r trydydd, Bigwood, yn breifat.
Mae llwybr cyhoeddus ar hyd ymyl orllewinol y coed. Mae yna hefyd sawl llwybr anffurfiol y mae pobl leol wedi'u gwneud. Bu farw Mr Dockar Drysdale yn ddiweddar ond, cyn iddo farw, cytunodd y bydd rhai o'r llwybrau hyn yn dod yn llwybrau a ganiateir. Mae'r coed yn boblogaidd gyda cherddwyr. Mae ganddo arddangosfa wych o glychau'r gog yn y gwanwyn.
Diolch i Glwb Hanes Radley a'u llyfr “Radley Manor and Village” gan Richard Dudding.