Hanes Coed Mawr Radley. Rhan 1
Ardal fach o goetir ger pentref Radley yw Coed Mawr Radley. Mae'n goetir hynafol. Mae pobl leol yn hoffi cerdded yno.
Rhwng 1050 a 1500, roedd Radley i gyd rhan o Barton Manor, a oedd yn perthyn i Abaty Abingdon.
Roedd Coed Mawr Radley parc ceirw’i Abaty. Fel arfer roedd ffos a banc o gwmpas parciau ceirw. Roedden nhw yn siâp crwn oherwydd mae hyn yn rhoi’r ardal fwyaf gyda’r ffens hyd ffyrraf.Dyn ni’n dal gallu gweld llawer o’r ffos a’r clawdd a siâp crwn.
Mae'n debyg roedd y parc ceirw yn rhy fach i bobl hela yno. Defnyddiodd yr Abaty'r parc i gyflenwi cig carw, cwningod a ffesantod. Yn yr hydref aeth moch yn y coed i fwyta mes. Defnyddiodd yr Abaty pren ar gyfer adeiladu, a defnyddiodd darnau bach o bren ar gyfer tanau.
Roedd y parc ceirw’n bwysig ac yn werthfawr i’r Abaty.
Ar ôl 1260, roedd John Parker ceidwad y parc. Doedd y ddim yn ffyddlon i’r Abaty. Terfysgodd pobl o Abingdon yn erbyn yr Abaty ac roedd teulu Parker yn arweinwyr. Torrodd pobl i mewn i’r parc, dwyn ceirw ac anifeiliaid eraill, torrodd coed i lawr a chymryd y coed. Arhosodd y teulu Parker fel ceidwad am sawl blwyddyn, ond roedd rhaid iddyn nhw fihafio’n well.
Yn 1538/9 cymerodd y Brenin Harri'r Wythfed Abaty Abingdon a’r tir i gyd. Wedyn, aeth y tiroedd at y Brenin Edward VI, i Syr Thomas Seymour, ac wedyn i’r Dywysoges Elizabeth (y Frenhines Elizabeth y cyntaf yn ddiweddarach).
Yn 1560 prynodd George Stonhouse Faenor Radley, gan gynnwys y parc ceirw, gan y Frenhines. Roedd y faenor yn perthyn i deulu'r Stonhouse tan 1792. Gwnaethon nhw adeiladu’r tŷ crand sydd yn rhan o Goleg Radley nawr.