Dw i newydd dechrau dysgu Ffinneg ym mis Ionawr. Ar ôl dysgu Cymraeg am dair mlynedd a hanner, ro'n i'n teimlo fel dysgu iaith newydd, ac iaith sy' dim yn Indo-Ewropeaidd y tro 'ma. Mewn caneuon, dw i wedi gweld enghreifftiau o frawddegau mewn ieithoedd ddodiadol (agglutinative languages) fel Basgeg, Aymara neu Ffinneg (sy' dim yn perthnasol efo'u gilydd). Mae "dodiadol" yn golygu bod hi'n bosib gosod nifer o olddodiadau (suffixes) ar ôl bôn i ychwanegu elfennau o ystyr (morffemau). Er enghraifft, mae'n bosib dweud "yn fy nhai fi hefyd?" yn Ffinneg efo dim ond un gair cwmpasog: taloissanikinko (bôn talo=tŷ, olddodiadau -i-="lluosog", -ssa=yn, -ni=fy, -kin=hefyd, -ko=?). Er nad o'n i'n siarad yr un iaith ddodiadol, roedd y cysyniad yn teimlo'n synhwyrol iawn i mi.
Dw i'n gwybod bod nifer y cyflyrau (cases) yn Ffinneg (14) yn brawychu rhai bobl rhag ei dysgu hi (ac mae'r sefyllfa'n debyg yn Basgeg), ond dydy "taloissa" yn llawer haws a llyfn na, er enghraifft, "in den Häusern" yn Almaeneg (efo'r bonion tal- neu Haus-)? Dw innau'n hoff iawn o gyflyrau ers i mi ddysgu Hen Groeg. A dweud y gwir, be' ydy'r pwynt mewn arddodiadau (sy'n gofyn am gyflwr arbennig eu hunain) os mae'n bosib dweud yr un peth efo cyflwr syml?
Wel, pa iaith ddodiadol i'w dewis felly? Dw i'n adnabod pobl sy'n siarad (o leia tipyn o) Ffinneg, Estoneg, Basgeg a Mongoleg, ond neb sy'n siarad Aymara neu Sameg ayyb. Oherwydd bod prinder pobl i gyfathrebu efo nhw'n fyw'n un o fy mhrif rwystrau wrth dysgu Cymraeg, Ffinneg roedd fy newis i. Mae'n tebyg mai Finneg ydy'r iaith ddodiadol gryfach yn fy ardal, ac mae'n hawdd dod o hyd i Ffinnwyr sy'n byw yma.
Felly, penderfynes i ddechrau dysgu Ffinneg. Ro'n i'n ceisio deall y prif gysyniadau gramadegol i ddechrau, a darllenes i lawer mewn llyfrau gramadeg. Ces i fy synnu: Roedd popeth mor syml a synhwyrol. Er enghraifft, dim ond dau amser sy yn Ffinneg: Amser presennol ac amser amherffaith, ac mae'n nhw'n defnyddio'r un terfyniadau (wrth gosod -i- rhwng y bôn a'r terfyniad yn yr amherffaith). Ac mae nifer anhygoel o dair ferf anrheolaidd yn yr iaith i gyd! Pam mae'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd yn gwneud yr holl helynt efo'u hamserau, llu o derfyniadau, genera, arddodiadau sy'n golygu bethau hollol gwahanol efo cyflyrau gwahanol, ferfau anrheolaidd ayyb.? Dw i'n teimlo'n ffŵl am ddysgu dim ond ieithoedd gorgymhleth hyd yn hyn!
Wrth gwrs, bydd dysgu geirfa'n heriol. Mae dysgu geiriau Gymraeg yn barod yn anodd. Mae 'na gysylltiadau efo geiriau Lladin neu Ffrangegn neu ieithoedd Germanaidd neu Groeg (ac roedd y rheina'n help i mi), ond mae'n anodd gweld y geirdarddiadau heb ymchwil mewn geiriaduron mawr. Ond yn Ffinneg, does dim cysylltiad i gyd efo'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd - o leia dim yn y bôn (wrth gwrs bod 'na eiriau benthyg). Bydd rhaid felly defnyddio cofrifau i gofio geiriau. Wel, nawn ni weld sut bydd y dysgu'n mynd!