Pan ro'n i'n yn fy arddegau, ro'n i isio mynd i'r lleuad. Roedd dynion wedi cerdded ar y lleuad am y tro cyntaf a ro'n i'n ffan fawr o ffuglen wyddonol ar y tro. Ond, i ddweud y gwir, hyd yn oed roedd 'na gyfle i deithio i'r lleuad, faswn i ddim wedi bod yn addas i'r bywyd yn llong ofod. Mae gen i glawstroffobia a dw i'n teimlo'n sâl ar garwsél neu siglenni.
Ond dw i wastad yn hoffi edrych ar y lleuad, os mae'r awyr yn glir. Mae hi mor hardd pan mae hi'n ymddangos uwch ben y mynyddoedd. Rŵan, achos mae pobl yn byw yn ninasoedd efo goleuadau disglair, dydyn nhw ddim yn sylweddoli pa mor loyw ydy'r lleuad. Tasai cymylau ddim yn yr awyr a thasai'r lleuad yn llawn, fasai hi'n bosib cerdded yn saff heb dortsh.
0
Cymraeg ardderchog ac yn rhugl yn yr acen gogleddol. Llongyfarchiadau!
Rydw i eisioes yn byw mewn dinas mawr, felly dw i ddim yn gallu gweld y lleuad yn disgleirio yn y nos. Yn wahanol iawn be faswn ni'n byw yng nghefn gwlad.
Rôn i'n mwynhau darllen y testun 'ma. Roedd gen innau byth breuddwydion am fynd i'r lleuad, ond rôn i'n mwynhau straeon ffuglen am bobl a aeth. Dw i newydd ailddarllen llyfrau Tintin am daith i'r lleuad (o'r 30au, dw i'n meddwl) - roedd hynny'n hwyl!
@Quaseleira Diolch yn fawr iawn am dy sylwadau. Maen nhw'n ddefnyddiol. Dw i'n hapusach efo sgwrsio achos dw i wedi gwneud cyrsiau llafar. Ond dw i isio gwella fy Nghymraeg ysgrifenedig.
@Chris Ro'n i'n mwyhau'r straeon Tintin pan ro'n i'n ifanc. A phan roedd fy mhlant yn fach, ro'n ni'n arfer darllen y llyfr "Cadwgan - y llygoden o'r lleuad". Roedd y stori yn giwt iawn!
@Margaret: Rhaid i mi bwrw golwg dros Cadwgan felly - diolch!