Brechiad
Welsh

Brechiad

by

health
daily life

Brechiad

Ges i alwad ffôn am chwarter i ddau. Roedd menyw o’r feddygfa. “Allech chi ddod i’r dre i gael brechiad y prynhawn yma?” Dwedais i, “Wel, dw i ddim yn gallu dod yn gyflym iawn. Mae rhaid i fi gerdded ac mae’n eithaf pell.” Dwedodd hi, “Beth am hanner awr wedi tri? Dyna’r apwyntiad olaf gyda ni heddiw.” “Da iawn. Dw i ar y ffordd.”

Cerddais i i’r dre. Do’n i ddim wedi bod i’r dre ers cyn Nadolig. O’n i tipyn bach yn gynnar, felly cerddais i o gwmpas. Roedd hi’n drist weld y siopau ar gau. Mae rhai ohonyn nhw sy’n ar gau am byth. Roedd dim ond ychydig o gaffis ar agor i gael coffi tu allan.

Es i i’r ganolfan brechiad. Roedd popeth yn drefnus iawn. Roedd dau feddigfeydd yng nghanol y dre yn llogi hen ganolfan yr henoed, oedd yn gyfleus iawn. Dwedais i amser fy apwyntiad a pa un o feddigfeydd. Ges i daflen a cherdyn. “Dylech chi fynd i le 2. Aros am funud fan hyn tan y claf arall yn mynd.”

Roedd y doctoriaid o’r feddigfa yn rhoi'r brechiadau. Es i i Dr Gwatkin. Gofynnodd e ychydig o gwestiynau. Doedd dim symptomau gyda fi, ches i erioed problem gyda brechiad, ches i ddim brechiad arall yn y tair wythnos diwethaf, ayyb. Roedd popeth yn iawn. Dwedodd e rybuddion wrtha i am y problemau sy’n bosibl. Caethon ni sgwrs fer ddiddorol am y brechiad Rhydychen a pham mae mwy o bobl ifanc yn cael problemau. Efallai’r brechiad yn gweithio yn fwy cyflym yn bobl ifanc. Dwedodd e “Dw i’n siarad fel rhywun sy’n siŵr ond, a dweud y gwir, does neb yn gwybod eto.”

Ges i frechlyn Rhydychen, dwedais i “Diolch yn fawr iawn”. Es i dŷ allan. Ro’n i’n hapus.

Mae fy mab yn byw mewn fflat yng nghanol y dre, felly es i i’r fflat a gwnes i sonio’r gloch. Daeth fy mab, ac aethon ni brynu cappuchinos. Cerddon ni i’r afon i weld y caeau o dan dŵr. Roedd hi’n braf i’w weld e. Wedyn, ro’n i wedi blino, felly des i adre ar y bws.

0