Mae'r tywydd yn ofnadwy o wlyb heddiw. Mi fedra i weld llyn ar y maes chwarae yn y pellter. Mae Storm Christoph wedi cyrraedd efo glaw trwm ond, diolch byth, doedd hi ddim yn rhy wyntog. Do'n i ddim isio mynd allan, oherwydd y glaw, felly dw i wedi bod yn sganio hen sleidiau 35mm.
Dydy llawer ohonyn nhw ddim yn werth eu sganio. Mae'r mynyddoedd yn yr Alban yn edrych yr un rŵan fel roedden nhw'n edrych ym 1968. Hefyd dydy rhai o'r sleidiau ddim yn sganio'n ddigon da i dreulio amser i brosesu nhw. Ond, dw i'n licio'r llun o'r gaseg efo ei hebol ac mae'r sleid yn sganio'n reit dda.
Yn anffodus, mae'r rhagolygon y tywydd yn wael ar gyfer yfory hefyd. Dw i'n edrych ymlaen at y penwythnos a thywydd gwell.
0
Dw i'n hoffi'r llun yn fawr iawn.
Diolch! Ro’n i'n jyst un deg chwech oed pan wnes i dynnu'r llun efo fy nghamera da cyntaf.