Coed wrth yr afon.
Welsh

Coed wrth yr afon.

by

daily life
nature

Yr wythnos diwetha es i am dro trwyr'r hen bentref i'r afon. Mae ffordd preifat sy'n mynd i dŷ cychod, ond mae e'n llwybr cyhoeddus. Mae'n gyfleus pan mae gormod o fwd ar y llwybr ar hyd yr afon. Do'n i ddim yn gallu cyrhaedd yr afon. Roedd rhybudd yn dweud "Coed peryglus". Roedd dau ddyn yn torri coeden i lawr. Roedd yn hen goeden helyg.

Heddiw es i am dro yno eto. Roedd tair coeden wedi cael eu torri, ac roedd y darnau ar ochr y ffordd. Roedd tyllau enfawr yn y boncyffion. Roedd ffyngau wedi bod yn brysur. A dweud y gwir, doedd dim llawer o boncyffion ar ôl. Dw i'n siŵr eu bod nhw'n beryglus. Mae'r perchennog y tir yn plannu coed newydd ar ochr y ffordd. Gobeithio y byddan nhw'n parhau mor hir â'r hen goed.

0