Teithio
Welsh

Teithio

by

travel

Teithio

Ionawr 2021

Dw i'n byw mewn pentref yn agos at ddinas. Fel arfer, dw i'n mynd ar y bws i'r ddinas ddwywaith neu dair gwaith yr wythnos i siopa, neu cwrdd gyda ffrindiau a chael coffi mewn caffi. Nawr, oherwydd y covid, dw i heb wedi bod yn y ddinas ers mis Mawrth diwetha.

Yn ffodus, mae siop fach yn y pentref sy'n gwerthu bwyd. Mae'r siop yn perthyn i'r pentref, ac mae pobl y pentref yn gweithio yno fel gwirfoddolwyr. Does dim llawer o ddewis, ond dw i'n gallu brynu digon o bethau sydd angen arna i.

Dw i ddim yn gyrru, a wnes i rhoi gorau i'r beic sawl blwyddyn yn ôl. Dw i ddim yn awyddus i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd. Mae'n iawn, ond dw i'n teimlo ychydig yn anghyfforddus. Felly, os dw i'n moyn mynd i rywle, mae'n rhaid i fi gerdded.

Mae pobl y pentref yn lwcus. Mae yna lwybrau sy'n mynd wrth yr afon, neu trwy'r coed, a dyn ni'n gallu mynd am dro. Wel, yn y haf o'n ni'n mynd am dro ym mhobman, gan ddefnyddio pob llwybr. Nawr mae mwd dwfn ym mhobman, ac mae'n rhaid i ni aros ar y ffyrdd.

Dw i'n edrych ymlaen at:

Mynd ar y bws i ddinas i weld ffrindiau.

Mynd ar y bws i weld fy mab.

Mynd ar y trên i archfarchnad i brynu bwyd anarferol.

Mynd ar y trên i weld fy merch. Mae'r daith yn eitha hir.

Mynd ar y trên i Gaerdydd. Dyw fy mab byth wedi bod yng Nghaerdydd, ac mae e'n moyn gweld Bae Caerdydd. Gwnes i addas iddo fe y byddwn ni'n mynd yno.

Mynd ar wyliau i Sir Benfro eto.

Beth am deithio ymhellach i ffwrdd? Does dim ots gyda fi os fydda i byth yn mynd dramor eto. Bydd yn antur gyffrous mynd ychydig o filltir ar y bws!

0