Mochyn cwta
Welsh

Mochyn cwta

by

memory
animals

1/52 i'r grŵp Flickr 2021 Weekly Alphabet Challenge

Y thema'r wythnos hon roedd: A is for Animal

Roedd y tywyll yn oer ac yn ddiflas ac roedd gen i bethau i'w wneud yn y tŷ. Mi fedrwn ni wedi tynnu llun o rai defaid, ond fasai defaid yn y pellter mewn cae gwlyb ddim yn gwneud ffotograff da. Felly, mewn panig munud olaf ar ddydd Sadwrn, tynnes i lun o'r addurn hwn. Mochyn cwta ydy o.

Roedd gen i'r mochyn cwta am flynyddoedd. Amser maith, roedd 'na siop anrheg yn y dre. Mae 'na lawer o siopau anrheg yn y dre, ond mae siop hon wedi mynd. Mae hi'n siop hen bethau rŵan. Ymddangosodd y mochyn cwta yn y ffenest a wnes ddeud wrth bobl mod i'n meddwl fod o'n giwt iawn. Ro’n i'n harfer cadw moch cwta pan ro’n i'n ifanc a dw dal yn hoffi nhw.

Wnes i ddim isio awgrymu unrhyw beth, ond wnaeth y ddwy bobl ifanc sy oedd yn gweithio amdanon ni fel cynorthwywyr yn yr hostel ieuenctid brynu'r mochyn cwta am fy mhen-blwydd! Dw i wedi cadw fo'n saff ers hynny.

0