Newyddion drwg
Welsh

Newyddion drwg

by

daily life

Yn anffodus, fe dderbynnais neges destun gan ffrind, yr oedd yn dweud bod un o’n hen cydweithwyr ni wedi marw. Dim ond 42 oedd ei oedran ef, ac roedd e’n dioddef o ganser pancreatig. Roedd teulu ifanc gyda fe - dau o feibion - ac er nad oedden ni wedi gweithio gyda’n gilydd ers blynyddoedd, fe ges i sioc mawr gan y newyddion.

Ar Dan oedd y bai am fy holl obsesiwn gyda ffilmiau zombies, a ffilmiau arswyd yn gyffredinol, a threulion oriau yn drafod manylion absẃrd mewn ffilmiau ofnadwy. Roedd e’n ddyn caredig, doniol - er byddai fe fod yn anodd ambell waith - a byddaf yn gweld ei eisiau. Nid allaf dychmygu sut mae ei deulu yn teimlo ar hyn o bryd.

0