Taith wlyb dros Gymru
Welsh

Taith wlyb dros Gymru

by

Amser gwyliau yw e. Treuliais ddoe yn paratoi ar gyfer y daith - tacluso’r car, prynu amseryddion newydd ar gyfer y goleuadau, gwneud yn siŵr y bydd y cathod yn iawn ac yn y blaen. Fe benderfynon ddilyn y sat-nav y tro hwn, achos roedd rhaid i ni adael ar ôl i fy mhartner i orffen yn y gwaith. Bydd hi'n gyflymach, meddyliais.

Wel, byddai hi wedi bod yn gyflymach heblaw am y storm uffernol a chwythodd neithiwr. Gwnaeth y nefoedd agor yn gyfan gwbl, a bwrodd hen wragedd a ffyn. Roedd rhaid i fi yrru ar gyflymder a oedd yn is na'r derfyn clyflymder o bell ffordd.

Ond, wel, rydym yng Nghymru nawr, o leia, ac yn edrych ymlaen at fod yn Aberystwyth am sawl dydd.

0